1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2. Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o'u calon eu hun, Gwrandewch air yr Arglwydd.
3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.
4. Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.
5. Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd.
6. Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a'r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.
7. Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?