5. Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.
6. A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.
7. Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
8. Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;
9. Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o'i mynyddoedd y cloddi bres.
10. Pan fwyteych, a'th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.
11. Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:
12. Rhag wedi i ti fwyta, a'th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
13. A lluosogi o'th wartheg a'th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt:
14. Yna ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;
15. Yr hwn a'th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr;
16. Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)
17. A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.