11. Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.
12. Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.
13. A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14. Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.
15. A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.
16. Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a'th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:
17. Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i'th forwyn.
18. Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a'r Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19. Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.
20. Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a'th deulu.
21. Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i'r Arglwydd dy Dduw.