1. Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;
2. Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i'w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o'r blaen;)
3. Pum tywysog y Philistiaid, a'r holl Ganaaneaid, a'r Sidoniaid, a'r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal‐hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.
4. A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd, y rhai a orchmynasai efe i'w tadau hwynt trwy law Moses.
5. A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid:
6. Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i'w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.
7. Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a'r llwyni.
8. Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd.
9. A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a'u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.
10. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a'r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a'i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim.
11. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
12. A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd.