6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i'w rhoddi i fyny i Edom.
7. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
8. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a'r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.
9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o'r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.
10. Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â'r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a'i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol.
12. Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.
13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.