1. A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2. A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a'i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;
3. A'i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a'r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;
4. A'r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a'r pumed, Seffatia, mab Abital:
5. A'r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
6. A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.
7. Ond i Saul y buasai ordderchwraig a'i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?
8. Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â'i frodyr, ac â'i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i'm herbyn fai am y wraig hon heddiw?
9. Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef;
10. Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer‐seba.
11. Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
12. Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
13. A dywedodd yntau, Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddywedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.
14. A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.