A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r Arglwydd: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.