24. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
25. A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
26. A'r rhan arall o hanes Pecaheia, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
27. Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe.
28. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
29. Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel‐beth‐maacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a'u caethgludodd hwynt i Asyria.
30. A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia, ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia.
31. A'r rhan arall o hanes Peca, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
32. Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu.
33. Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc.
34. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd; yn ôl yr hyn oll a'r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.
35. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd.