11. Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.
12. A gŵr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.
13. A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i'r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.
14. A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A'r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.
15. Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.
16. A'r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o'r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?
17. A'r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a'th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd.
18. A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a'i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.
19. A'i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw, a marw o'i chwegrwn a'i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni.
20. Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd.
21. A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a'i gŵr.)
22. A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.