1. Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau.
2. Am hynny y gofynnodd Dafydd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi a tharo'r Philistiaid hyn? A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo'r Philistiaid, ac achub Ceila.
3. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?
4. Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â'r Arglwydd. A'r Arglwydd a'i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.
5. A Dafydd a'i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â'r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
6. A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law.
7. A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, Duw a'i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi.
8. A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr.