14. Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw:
15. Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.
16. Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd.
17. A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a'i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.
18. A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o'r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.
19. Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i'r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel.
20. A mi a saethaf dair o saethau tua'i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.
21. Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd.
22. Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a'th anfonodd ymaith.
23. Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.
24. Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.
25. A'r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.
26. Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.
27. A bu drannoeth, yr ail ddydd o'r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw?
28. A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:
29. Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
30. Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?