10. A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a'm cadw oddi wrth ddrwg, fel na'm gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.
11. A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston.
12. Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha.
13. A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath.
14. A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy.
15. A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas.
16. A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.
17. A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.
18. A'i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered.
19. A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.
20. A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.
21. A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,
22. A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.
23. Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda'r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24. Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
25. Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
26. A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
27. Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.
28. A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual,
29. Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,