10. A'r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Solomon y peth hyn.
11. A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
12. Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.
13. A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o'th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
14. Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a'm gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.
15. A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i'w holl weision.
16. Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
17. A'r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a'r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.
18. Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.