23. A hwy a fynegasant i'r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i'r brenin â'i wyneb hyd lawr.
24. A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc?
25. Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o'i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
26. Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a'th was Solomon, ni wahoddodd efe.
27. Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i'th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
28. A'r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin.
29. A'r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder,
30. Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn.
31. Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a'i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i'r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.