3. Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid.
4. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.”
5. A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.
6. Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.”
7. Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid.
8. Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed.
9. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno,
10. a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.”
11. Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.”
12. A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim.
13. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?”
14. Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.