1. Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.
2. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy'n dweud hynny.”
3. Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.
4. Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.”
5. Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.
6. Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.
7. Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.
8. Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt.
9. Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?”
10. Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.