9. Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir.
10. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
11. Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
12. Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan.
13. Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’
14. Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’
15. A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt?
16. Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!”