10. “Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i weddïo, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi.
11. Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïo fel hyn: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma.
12. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.’
13. Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’
14. Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”
15. Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu.
16. Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
17. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”
18. Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”