12. Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, ‘Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.’ A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
13. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.
14. Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
15. Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.
16. Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo.
17. Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
18. Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di.
19. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’
20. Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.