2. Agorodd bwll y dyfnder, a chododd mwg o'r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pwll.
3. O'r mwg daeth locustiaid allan ar y ddaear, a rhoddwyd iddynt allu tebyg i'r gallu sydd gan ysgorpionau'r ddaear.
4. Dywedwyd wrthynt am beidio â niweidio na phorfa'r ddaear na'r un planhigyn na choeden, ond yn unig y bobl nad oedd sêl Duw ganddynt ar eu talcennau.
5. Gorchmynnwyd iddynt beidio â'u lladd, ond eu poenydio am bum mis; a'u poenedigaeth hwy oedd fel poenedigaeth ysgorpion yn brathu rhywun.
6. Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth, ond ni ddônt o hyd iddi, yn chwenychu marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi rhagddynt.
7. Yn yr olwg arnynt yr oedd y locustiaid yn debyg i geffylau wedi eu paratoi i ryfel. Ar eu pennau yr oedd megis coronau euraid, ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynol,
8. a gwallt ganddynt fel gwallt merched, a'u dannedd fel dannedd llewod.
9. Ac yr oedd eu dwyfron fel dwyfronneg o haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o gerbydau rhyfel, a'u ceffylau yn carlamu i'r frwydr.
10. Yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau yr oedd eu gallu i niweidio pobl am bum mis.
11. Yn frenin arnynt yr oedd angel y dyfnder; ei enw mewn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg gelwir ef Apolyon.
12. Aeth y gwae cyntaf heibio; wele, daw eto ddau wae ar ôl hyn.