12. Yma y mae angen dyfalbarhad y saint, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw a'u ffydd yn Iesu.
13. Yna clywais lais o'r nef yn dweud, “Ysgrifenna: ‘O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy'n marw yn yr Arglwydd.’ ‘Ie,’ medd yr Ysbryd, ‘cânt orffwys o'u llafur, oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.’ ”
14. Yna edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un fel mab dyn, a chanddo goron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law.
15. Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw â llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed.”
16. A dyma'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl yn bwrw ei gryman i'r ddaear, a medwyd y ddaear.
17. Daeth angel arall allan o'r deml yn y nef, a chanddo yntau gryman miniog.
18. A daeth angel arall allan o'r allor, ac yr oedd gan hwn awdurdod ar y tân. Galwodd â llais uchel ar yr hwn yr oedd y cryman miniog ganddo. “Bwrw dy gryman miniog,” meddai, “a chasgla rawnsypiau gwinwydden y ddaear, oherwydd aeddfedodd ei grawnwin.”
19. A dyma'r angel yn bwrw ei gryman i'r ddaear, yn casglu ffrwyth gwinwydden y ddaear ac yn ei daflu i winwryf mawr digofaint Duw.
20. Sathrwyd y gwinwryf y tu allan i'r ddinas, a llifodd gwaed o'r gwinwryf nes cyrraedd at ffrwynau'r ceffylau, am tua thri chan cilomedr o gwmpas.