1. Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
2. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.
3. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
4. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
5. Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.
6. O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd.
7. Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol.
8. Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau.
9. Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd,
10. ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr.
11. Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth.
12. Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.
13. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.