20. Ond dywedodd Pedr wrtho, “Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani!
21. Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw.
22. Felly edifarha am y drygioni hwn o'r eiddot, ac erfyn ar yr Arglwydd, i weld a faddeuir i ti feddylfryd dy galon,
23. oherwydd rwy'n gweld dy fod yn llawn chwerwder ac yn gaeth i ddrygioni.”
24. Atebodd Simon, “Gweddïwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch.”
25. Wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant hwythau yn ôl i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.
26. Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: “Cod,” meddai, “a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon.
27. Cododd yntau ac aeth. A dyma ŵr o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli,
28. ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia.
29. Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.”
30. Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?”
31. Meddai yntau, “Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?” Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef.
32. A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen:“Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa,ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr,felly nid yw'n agor ei enau.
33. Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn.Pwy all draethu am ei ddisgynyddion?Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear.”
34. Meddai'r eunuch wrth Philip, “Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?”
35. Yna agorodd Philip ei enau, a chan ddechrau o'r rhan hon o'r Ysgrythur traethodd y newydd da am Iesu iddo.
36. Fel yr oeddent yn mynd rhagddynt ar eu ffordd, daethant at ryw ddŵr, ac ebe'r eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy'n rhwystro imi gael fy medyddio?”
38. A gorchmynnodd i'r cerbyd sefyll, ac aethant i lawr ill dau i'r dŵr, Philip a'r eunuch, ac fe'i bedyddiodd ef.
39. Pan ddaethant i fyny o'r dŵr, cipiwyd Philip ymaith gan Ysbryd yr Arglwydd; ni welodd yr eunuch mohono mwyach, ac aeth ymlaen ar ei ffordd yn llawen.