6. Y mae'r weddw afradlon, ar y llaw arall, gystal â marw er ei bod yn fyw.
7. Gorchymyn di y pethau hyn hefyd, er mwyn i'r gweddwon fod yn ddigerydd.
8. Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.
9. Ni ddylid rhoi gwraig ar restr y gweddwon os nad yw dros drigain oed, ac a fu'n wraig i un gŵr.
10. A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.
11. A phaid â chynnwys y rhai iau ar restr y gweddwon, oherwydd cyn gynted ag y bydd eu nwydau yn eu dieithrio oddi wrth Grist, daw arnynt chwant priodi,
12. a chânt eu condemnio felly am dorri'r adduned a wnaethant ar y dechrau.
13. At hynny, byddant yn dysgu bod yn ddiog wrth fynd o gwmpas y tai, ac nid yn unig yn ddiog ond hefyd yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.
14. Fy nymuniad, felly, yw bod gweddwon iau yn priodi, yn magu plant ac yn cadw tŷ, a pheidio â rhoi cyfle i unrhyw elyn i'n difenwi.
15. Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn a chanlyn Satan.
16. Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.
17. Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.
18. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu”, a hefyd: “Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
19. Paid â derbyn cyhuddiad yn erbyn henuriad os na fydd hyn ar air dau neu dri o dystion.
20. Y rhai ohonynt sy'n dal i bechu, cerydda hwy yng ngŵydd pawb, i godi ofn ar y gweddill yr un pryd.