10. Iachawdwriaeth yw hon y bu ymofyn ac ymorol dyfal amdani gan y proffwydi a broffwydodd am y gras oedd i ddod i chwi.
11. Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o'u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i'r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i'w canlyniadau gogoneddus.
12. Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.
13. Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.
14. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth;
15. eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad.