1. Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi;
2. y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seionyn fwy na holl drigfannau Jacob.
3. Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti,O ddinas Duw.Sela
4. “Yr wyf yn enwi Rahab a Babilonymysg y rhai sy'n fy nghydnabod;am Philistia, Tyrus ac Ethiopiafe ddywedir, ‘Ganwyd hwy yno’.”
5. Ac fe ddywedir am Seion,“Ganwyd hwn-a-hwn ynddi;y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi.”
6. Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu,“Ganwyd hwy yno.”Sela
7. Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud,“Y mae fy holl darddiadau ynot ti.”
Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 87