1. O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,a'th gyfiawnder i fab y brenin.
2. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,a'th rai anghenus yn gywir.
3. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,a'r bryniau â chyfiawnder.
4. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,a gwaredu'r rhai anghenus,a dryllio'r gorthrymwr.
5. Bydded iddo fyw tra bo haula chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.
6. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.
7. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.
8. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
9. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.