18. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galonac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20. Ceidw ei holl esgyrn,ac ni thorrir yr un ohonynt.
21. Y mae adfyd yn lladd y drygionus,a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.
22. Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.