1. Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.
2. Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;
3. canwch iddo gân newydd,tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4. Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5. Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7. Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8. Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.