1. Dywed yr ynfyd yn ei galon,“Nid oes Duw.”Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;nid oes un a wna ddaioni.
2. Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoeddar ddynolryw,i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoethac yn ceisio Duw.
3. Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,ac mor llygredig â'i gilydd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.
4. Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5. Yno y byddant mewn dychryn mawr,am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.
6. Er i chwi watwar cyngor yr anghenus,yr ARGLWYDD yw ei noddfa.