5. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;
6. y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,a ffroenau nad ydynt yn arogli;
7. y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,a thraed nad ydynt yn cerdded;ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.
8. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
9. O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.
10. O dŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.
11. Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.
12. Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio;fe fendithia dŷ Israel,fe fendithia dŷ Aaron,
13. fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,y bychan a'r mawr fel ei gilydd.
14. Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau,chwi a'ch plant hefyd.