1. Molwch yr ARGLWYDD.Diolchaf i'r ARGLWYDD â'm holl galonyng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2. Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD,fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3. Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith,a saif ei gyfiawnder am byth.
4. Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.