15. Fy enaid, bendithia'r Arglwydd, y Brenin mawr,
16. oherwydd fe adeiledir Jerwsalem yn ddinas iddo breswylio ynddi yn oes oesoedd.’“Gwyn fy myd, pan ddaw gweddill fy hiliogaeth i weld dy ogoniantac i glodfori Brenin y Nef.Fe adeiledir pyrth Jerwsalem â saffir ac emrallt,a'th holl furiau â meini gwerthfawr;adeiledir tyrau Jerwsalem ag aur,a'u hamddiffynfeydd ag aur pur;
17. palmentir heolydd Jerwsalem â rhuddemau a gemau Offir.
18. Bydd caneuon o orfoledd yn atseinio o byrth Jerwsalem,ac o'i holl breswylfeydd y llef, ‘Haleliwia! Bendigedig fyddo Duw Israel!’Dan ei fendith ef, bendithiant hwy ei enw sanctaidd byth bythoedd.”