8. Yna gwna iddynt gymryd bustach ifanc gyda bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, a chymer dithau fustach ifanc arall yn aberth dros bechod.
9. Tyrd â'r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasgla ynghyd holl gynulliad pobl Israel.
10. Wrth iti ddod â'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, bydd pobl Israel yn gosod eu dwylo arnynt,
11. a bydd Aaron yn cyflwyno'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan oddi wrth bobl Israel, er mwyn iddynt wasanaethu'r ARGLWYDD.
12. Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y bustych, a byddi dithau'n offrymu un bustach yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, i wneud cymod dros y Lefiaid.
13. Gwna i'r Lefiaid wasanaethu Aaron a'i feibion, a chyflwyna hwy yn offrwm cyhwfan i'r ARGLWYDD.
14. Fel hyn y byddi'n neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel i fod yn eiddo i mi.
15. “Wedyn, bydd y Lefiaid yn mynd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddi dithau'n eu glanhau a'u cyflwyno'n offrwm cyhwfan.
16. Cyflwynwyd hwy imi'n rhodd arbennig o blith pobl Israel, ac fe'u cymerais i mi fy hun yn gyfnewid am y cyntaf i ddod allan o'r groth, y rhai cyntafanedig o'r holl Israeliaid.
17. Y mae pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail, yn eiddo i mi; cysegrais hwy i mi fy hun ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft,
18. a chymerais y Lefiaid yn gyfnewid am bob cyntafanedig o blith pobl Israel.
19. Rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron a'i feibion o blith pobl Israel, i wasanaethu'r Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac i wneud cymod drostynt, rhag i bla ddod ar bobl Israel wrth iddynt ddod yn agos at y cysegr.”