31. Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, “Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
32. Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33. Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.
34. Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
35. Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
36. Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
37. Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,
38. Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.
39. Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.