1. Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen.
2. Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid,
3. a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt,
4. a dywedasant wrth henuriaid Midian, “Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes.” Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd,