Arweiniaf di drwy ganol Jwdea nes iti gyrraedd yn agos i Jerwsalem, a gosodaf dy orsedd yng nghanol y ddinas. Byddi yn eu harwain fel defaid heb fugail ganddynt, ac ni feiddia unrhyw gi gyfarth o'th flaen. Cefais ragwybodaeth am hyn; fe'i datguddiwyd imi, ac fe'm hanfonwyd i'w chyhoeddi i ti.”