11. Pan ddisgynnodd coelbren llwyth Benjamin yn ôl eu tylwythau, cawsant diriogaeth rhwng Jwda a thylwyth Joseff.
12. I'r gogledd âi'r terfyn o'r Iorddonen i fyny heibio i lechwedd gogleddol Jericho, a thua'r gorllewin, i'r mynydd-dir, nes cyrraedd anialwch Beth-afen.
13. Croesai'r terfyn oddi yno i Lus, ac i'r de ar hyd llechwedd Lus, sef Bethel, ac yna i lawr at Ataroth-adar ar y mynydd i'r de o Beth-horon Isaf.
14. Yr oedd y terfyn yn newid ei gyfeiriad ar yr ochr orllewinol, ac yn troi tua'r de o'r mynydd sy'n wynebu Beth-horon, ac ymlaen nes cyrraedd Ciriath-baal, sef Ciriath-jearim, tref yn perthyn i Jwda. Dyma'r ochr orllewinol.
15. Yr oedd ochr ddeheuol y terfyn yn mynd o gwr Ciriath-jearim tua'r gorllewin, hyd at ffynnon dyfroedd Nefftoa.
16. Yna âi'r terfyn i lawr at gwr y mynydd sy'n wynebu dyffryn Ben-hinnom, i'r gogledd o ddyffryn Reffaim; wedi hynny, i lawr dyffryn Hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid at En-rogel.
17. Wedi troi tua'r gogledd, âi i En-semes ac ymlaen i Geliloth, gyferbyn â rhiw Adummim, ac i lawr at faen Bohan fab Reuben,
18. cyn croesi ochr ogleddol y llechwedd sy'n wynebu'r Araba, a mynd i lawr yno.
19. Yna âi'r terfyn ar hyd ochr ogleddol llechwedd Beth-hogla, nes cyrraedd cilfach ogleddol y Môr Marw ac aber yr Iorddonen. Hwn yw'r terfyn deheuol.
20. Yr Iorddonen yw'r terfyn ar yr ochr ddwyreiniol. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn ôl eu tylwythau, a'i therfynau o amgylch.
21. Y trefi sy'n perthyn i lwyth Benjamin, yn ôl eu tylwythau, yw: Jericho, Beth-hogla, Emec-cesis,
22. Beth-araba, Semaraim, Bethel,
23. Afim, Para, Offra,
24. Ceffar Haammonai, Offni a Geba: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
25. Gibeon, Rama, Beeroth,
26. Mispe, Ceffira, Mosa,
27. Recem, Irpeel, Tarala,
28. Sela, Eleff, Jebusi (sef Jerwsalem), Gibea a Ciriath: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn ôl eu tylwythau.