1. Atebodd Soffar y Naamathiad:
2. “Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau?A gyfiawnheir rhywun siaradus?
3. A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi?A gei di watwar heb neb i'th geryddu?
4. Dywedaist, ‘Y mae f'athrawiaeth yn bur,a dilychwin wyf yn d'olwg.’
5. O na lefarai Duw,ac agor ei wefusau i siarad â thi,
6. a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.
7. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?
9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.
10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?
11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
12. A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
13. “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;