4. Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy.
5. Yna pan ddôi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, “Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau.” Fel hyn y gwnâi Job yn gyson.
6. Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.
7. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.”
8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.”
9. Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?
10. Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir.
11. Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”