13. Un diwrnod, pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed yn nhŷ eu brawd hynaf,
14. daeth cennad at Job a dweud, “Pan oedd yr ychen yn aredig a'r asennod yn pori gerllaw,
15. daeth y Sabeaid ar eu gwarthaf a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
16. Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Disgynnodd tân mawr o'r nefoedd ac ysu'r defaid a'r gweision a'u difa'n llwyr, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
17. Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Daeth y Caldeaid yn dair mintai, ac ymosod ar y camelod a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
18. Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,
19. a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
20. Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu
21. a dweud,“Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno.Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith.Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”
22. Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.