1. Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin.
2. Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad.
3. Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.
4. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
5. “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm;a chyn dy eni, fe'th gysegrais;rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.”
6. Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.”
7. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,“Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’;oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt,a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti.
8. Paid ag ofni o'u hachos,oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.
9. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,“Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.
10. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedda thros y teyrnasoedd,i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr,i ddifetha ac i ddymchwelyd,i adeiladu ac i blannu.”
11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.”
12. Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.”
13. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.”
14. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.
15. Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda;
16. a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.
17. “Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen.
18. A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad.