13. Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch,
14. hwy a phob bwystfil yn ôl ei rywogaeth, a phob anifail yn ôl ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei rywogaeth, a'r holl adar yn ôl eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog.
15. Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo.
16. Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno.
17. Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear.
18. Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd.
19. Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd;
20. cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd.
21. Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd;
22. bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau.
23. Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.