10. bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
11. Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
12. Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed.
13. Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.
14. Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,
15. a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed.
16. Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.
17. Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.
18. Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, â llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.
19. Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.
20. “Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.
21. Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.