18. Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster,
19. a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.”
20. Dywedodd Moses wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu.”
21. Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw.
22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: ‘Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd.
23. Peidiwch â gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi.
24. Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw.
25. Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid â'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin â'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi.
26. Hefyd, paid â mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.’