4. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:“Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth—ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbynnid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf—felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawri frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.
5. Fel yr adar yn hofran uwchben,felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem;bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub.”
6. Dychwelwch at yr un a adawsoch yn llwyr, blant Israel.
7. Oherwydd yn y dydd hwnnw bydd pob un ohonoch yn dirmygu'r eilun arian a'r eilun aur a wnaeth eich dwylo mewn pechod.
8. “Syrth Asyria drwy gleddyf, ond nid un dynol,a chleddyf nad yw'n eiddo meidrolyn fydd yn ei ddifa;os gallant ffoi rhag y cleddyf,bydd y gwŷr ifainc yn gwneud llafur gorfod;
9. bydd ei gadernid yn pallu gan fraw,a'i swyddogion yn rhy ofnus i ffoi,”medd yr ARGLWYDD, sydd â'i dân yn llosgi yn Seiona'i ffwrn yn Jerwsalem.