16. Bydd yno hefyd dref o'r enw Hamona. Felly y glanheir y wlad.’
17. “Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Galw ar bob math o adar ac ar yr holl anifeiliaid gwylltion, ‘Ymgasglwch a dewch at eich gilydd o bob tu i'r aberth yr wyf yn ei baratoi i chwi, sef yr aberth mawr ar fynyddoedd Israel; a byddwch yn bwyta cnawd ac yn yfed gwaed.
18. Byddwch yn bwyta cnawd y cedyrn ac yn yfed gwaed tywysogion y ddaear, yn union fel pe byddent yn hyrddod ac ŵyn, yn fychod a bustych, pob un ohonynt wedi ei besgi yn Basan.
19. Yn yr aberth yr wyf fi'n ei baratoi i chwi, byddwch yn bwyta braster nes eich digoni ac yn yfed gwaed nes meddwi.
20. Fe'ch digonir wrth fy mwrdd â meirch a marchogion, â chedyrn a phob math o filwyr,’ medd yr Arglwydd DDUW.
21. “Byddaf yn gosod fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a bydd yr holl genhedloedd yn gweld y farn a wneuthum a'r llaw a osodais arnynt.
22. O'r dydd hwnnw ymlaen, bydd tŷ Israel yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.
23. Bydd y cenhedloedd yn gwybod mai am eu drygioni yr aeth tŷ Israel i gaethglud; am iddynt fod yn anffyddlon i mi y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt a'u rhoi yn nwylo'u gelynion nes iddynt i gyd syrthio trwy'r cleddyf.
24. Fe wneuthum â hwy yn ôl eu haflendid a'u troseddau, a chuddiais fy wyneb oddi wrthynt.