1. “Fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel a dywed, ‘O fynyddoedd Israel, clywch air yr ARGLWYDD.
2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r gelyn ddweud amdanoch, “Aha! Daeth yr hen uchelfeydd yn eiddo i ni!”
3. felly proffwyda a dywed: Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddynt eich gwneud yn ddiffeithwch ac yn anrhaith o bob tu, nes ichwi fynd yn eiddo i weddill y cenhedloedd, yn destun siarad ac yn enllib i'r bobl,
4. felly, O fynyddoedd Israel, clywch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, wrth yr adfeilion diffaith a'r dinasoedd anghyfannedd, sydd wedi mynd yn ysglyfaeth ac yn wawd i weddill y cenhedloedd o amgylch;
5. felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Lleferais yn fy sêl ysol yn erbyn gweddill y cenhedloedd, ac yn erbyn y cyfan o Edom, oherwydd iddynt, â llawenydd yn eu calon a malais yn eu hysbryd, wneud fy nhir yn eiddo iddynt eu hunain a gwneud ei borfa yn anrhaith.’
6. Felly, proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n llefaru yn fy eiddigedd a'm llid, oherwydd ichwi ddioddef dirmyg y cenhedloedd.
7. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn tyngu y bydd y cenhedloedd o'ch amgylch yn dioddef dirmyg.