10. “ ‘Oherwydd iti ddweud, “Eiddof fi fydd y ddwy genedl hyn a'r ddwy wlad hyn, a chymeraf feddiant ohonynt”, er bod yr ARGLWYDD yno,
11. felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, fe wnaf â thi yn ôl y dig a'r eiddigedd a ddangosaist ti yn dy gasineb tuag atynt; gwnaf fy hunan yn wybyddus yn eu mysg pan farnaf di.
12. Yna, byddi'n gwybod i mi, yr ARGLWYDD, glywed yr holl bethau gwaradwyddus a leferaist yn erbyn mynyddoedd Israel pan ddywedaist, “Y maent yn ddiffeithwch; fe'u rhoddwyd i ni i'w difa.”