15. yn dychwelyd gwystl, yn adfer yr hyn a ladrataodd, yn dilyn rheolau'r bywyd ac yn ymatal rhag drwg, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
16. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i bechodau; gwnaeth yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a bydd yn sicr o fyw.
17. “Eto fe ddywed dy bobl, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’; ond eu ffordd hwy sy'n anghyfiawn.
18. Os try un cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder a gwneud drwg, bydd farw am hynny.
19. Os try un drygionus oddi wrth ei ddrygioni a gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, bydd fyw am hynny.
20. Eto fe ddywedwch, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’! O dŷ Israel, fe farnaf bob un ohonoch yn ôl ei ffyrdd.”
21. Ar y pumed dydd o'r degfed mis yn neuddegfed flwyddyn ein caethglud, daeth ataf ddyn oedd wedi dianc o Jerwsalem a dweud, “Cwympodd y ddinas!”
22. Y noson cyn iddo gyrraedd, yr oedd llaw yr ARGLWYDD wedi dod arnaf, ac yr oedd wedi agor fy ngenau cyn i'r dyn ddod ataf yn y bore. Felly yr oedd fy ngenau'n agored, ac nid oeddwn bellach yn fud.
23. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
24. “Fab dyn, y mae'r rhai sy'n byw yn yr adfeilion yna yng ngwlad Israel yn dweud, ‘Un dyn oedd Abraham, ac fe feddiannodd y wlad; ond yr ydym ni'n llawer, ac yn sicr y mae'r wlad wedi ei rhoi'n feddiant i ni.’